Rhif y ddeiseb: P-06-1274

Teitl y ddeiseb: Rhowch stop ar y camau i amddifadu Trefynwy o’i Cherbyd Ymateb Cyflym

Geiriad y ddeiseb: Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn ystyried mynd â’r Cerbyd Ymateb Cyflym o orsaf ambiwlansys Trefynwy, gan adael UN ambiwlans yn unig ar gyfer yr ardal. Bydd gwneud hyn yn arwain at amseroedd ymateb hirach.  Cerbydau Ymateb Cyflym eu cyflwyno am eu bod yn gallu cyrraedd cleifion sy’n gritigol, sydd mewn mannau diarffordd, sy’n sâl, ac sydd wedi’u hanafu yn gyflym er mwyn lleddfu poen a dioddefaint ac achub bywydau. Nid yw hynny wedi newid, ac mae’r ffaith bod poblogaeth yr ardal yn cynyddu yn golygu bod angen mwy o adnoddau, nid llai.

Mae data'r Cyfrifiad ar gyfer ardal Trefynwy’n dangos cynnydd o flwyddyn i flwyddyn yn ffigurau’r boblogaeth yno.

Gofynnwyd am ddata o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i ganfod sawl gwaith y mae’r Cerbyd Ymateb Cyflym wedi cael ei ddefnyddio bob blwyddyn, ond, yn seiliedig ar wybodaeth am y gymuned, mae’n debyg ei fod yn cael ei ddefnyddio bob dydd. Mae gen i hanes personol o rywun yn fy nheulu yn dioddef o waedu digymell ar yr ymennydd dair blynedd yn ôl yn Nhrefynwy. Y Cerbyd Ymateb Cyflym oedd y cyntaf i gyrraedd, ac nid oes dwywaith na fyddai’r person hwnnw’n fyw heddiw hebddo.

Ym mis Mawrth 2012, mewn datganiad, dywedodd Stuart Fletcher, Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth Ambiwlans ar y pryd: "I believe that they provide a very rapid response which allows immediate life saving first aid to be applied until the arrival of the ambulance".

Ar ôl i wasanaethau gofal iechyd yn sir Fynwy gael eu hisraddio yn ddiweddar, fel y gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn ysbyty Nevill Hall, a’r Fenni bellach yn gweithredu fel uned mân anafiadau yn unig, ni allwn ganiatáu i adnoddau brys yr ardal ddirywio ymhellach.

 

 


1.        Cefndir

Fel rhan o adolygiad rhestr ddyletswyddau cenedlaethol, mae cynlluniau yn eu lle allai arwain at symud dau Gerbyd Ymateb Cyflym ymaith o orsafoedd ambiwlans Cas-gwent a Threfynwy.

Mae’r llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau ar 27 Ebrill 2022 yn rhoi’r wybodaeth a ganlyn ynghylch y gostyngiad arfaethedig mewn cerbydau ymateb cyflym.

Cychwynnodd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) adolygiad o restrau dyletswyddau cenedlaethol ym mis Ebrill 2021. Roedd hynny’n dilyn argymhellion adolygiad annibynnol o'r galw a'r capasiti a gomisiynwyd ganddo ar y cyd â'r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys, i lywio'r gwaith o drefnu adnoddau a staffio ledled Cymru yn y dyfodol. Amlygodd yr adolygiad ofyniad i gyplysu’r capasiti â’r galw yn well drwy gymysgedd o recriwtio ychwanegol a chyflawni nifer o arbedion effeithlonrwydd gweithredol, gan gynnwys adolygiad o restrau dyletswyddau’r staff presennol.

Bwriad proses adolygu'r rhestrau dyletswyddau cenedlaethol yw gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd rhestrau dyletswyddau a sicrhau bod staff ac adnoddau yn y sefyllfa orau yn ddaearyddol i ddarparu gwasanaeth ambiwlans brys ymatebol a theg ar draws pob rhan o Gymru. Ystyrir ei bod yn hanfodol rheoli'n well y galwadau cynyddol sy’n cael eu rhoi ar wasanaethau ambiwlans yng Nghymru a chysoni'r capasiti i ateb y galw presennol a'r galw yn y dyfodol fel rhan sylfaenol o gynllunio a darparu gwasanaeth modern sy'n perfformio'n dda i bobl Cymru.

Fel rhan o'r adolygiad, argymhellwyd y dylid dwyn ymlaen y cyfnod pan fydd y nifer uchaf o ambiwlansys ar ddyletswydd (h.y. pan fod y nifer mwyaf o ambiwlansys ganddo ar ddyletswydd) i gyd-fynd â'r galw beunyddiol. Dylid newid y cymysgedd o adnoddau ambiwlans, gan leihau’n sylweddol cerbydau ymateb cyflym nad ydynt yn cludo cleifion a chynyddu ambiwlansys brys.

2.     Ymateb i'r cynigion

Mae erthygl newyddion ar wefan Cyngor Sir Fynwy yn nodi – yn ystod cyfarfod y Cyngor llawn ar 3 Mawrth 2022 – bod cynghorwyr ‘ar draws yr holl bleidiau gwleidyddol’, ynghyd â’i arweinydd y Cynghorydd Richard John, wedi condemnio cynlluniau WAST i gael gwared ar y cerbydau ymateb cyflym o orsafoedd ambiwlans Trefynwy a Chas-gwent fel rhan. o'i adolygiad rhestr ddyletswyddau cenedlaethol. At hynny, trafodwyd cyfarfod y Cyngor – ynghyd â barn y Cynghorwyr – ar wefan newyddion y South Wales Argus.

23 Ebrill 2022 bod y Cynghorydd Richard John wedi cynnal trafodaethau gyda Phrif Weithredwr WAST yn ddiweddar yn dilyn pryderon a godwyd am y cynlluniau. Nododd y Cynghorydd er bod y cyfarfod yn un adeiladol, na chafodd y sicrwydd yr oedd yn ei geisio'n benodol am y ddarpariaeth ambiwlans yng ngorsafoedd Trefynwy a Chas-gwent. Aeth y Cynghorydd Richard John ymlaen i ddweud:

“Their justification for removing the rapid response vehicles from our stations is that there is a relatively low level of immediately life-threatening red calls and they consider money would be better spent on new emergency ambulances, which can, unlike the rapid response vehicle convey patients to hospital.

Across Gwent they have plans to recruit 53 additional ambulance staff and increase the number of vehicles, but crucially there is no commitment for these ambulances to be based in Monmouthshire. They will be based outside our county in the larger centres of population and available to travel into Monmouthshire when required

I don’t think this is good enough given the significant travel times in a rural area.”

Yn yr un erthygl, dywedodd Prif Weithredwr WAST:

“The Wales-wide roster review is a complex piece of work, and while we accept there is some nervousness among communities about what this means for provision in their area, the goal ultimately is to ensure that our finite resources are aligned to demand.

This is not about reducing or downgrading services; it’s about working smarter with the resources we have to deliver a bespoke service to communities, based on the nature and number of calls the data tells us we historically receive in that community, as well as what we predict that demand will look like in the future”.

Cafwyd adroddiad mewn erthygl newyddion yn y South Wales Argus ar 10 Mai 2022 bod ymgyrchwyr wedi cael ymatebion i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth, sydd – yn eu barn nhw – yn dangos nad yw'r adolygiad yn ystyried materion lleol ar gyfer Trefynwy, megis twf poblogaeth, tirwedd ddaearyddol a nifer y digwyddiadau yr aeth y cerbyd ymateb cyflym iddyn nhw lle nad oedd angen ymweliad ymlaen â'r ysbyty.

3.     Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae’r llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau ar 27 Ebrill 2022yn egluro, er bod gan y Gweinidog rôl i bennu'r cyfeiriad strategol ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru a dwyn y GIG i gyfrif, mater gweithredol yw adnoddau ambiwlansys ac felly mae'n dal i fod yn gyfrifoldeb i WAST. Mae hyn hefyd mewn cydweithrediad â byrddau iechyd lleol a'r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys fel cydgomisiynwyr gwasanaethau ambiwlans yng Nghymru.

Mae’r Gweinidog yn nodi bod WAST o'r farn bod y newid hwn o gerbydau ymateb cyflym i ambiwlansys bryd yn gam naturiol ymlaen fel rhan o'r model ymateb clinigol, a gyflwynwyd yn 2015. Mae'r dystiolaeth yn dangos bod anfon yr ymateb cywir, a darparu gofal diffiniol yn gynnar, yn cael blaenoriaeth dros gyflymder yr ymateb i'r mwyafrif helaeth o ddigwyddiadau, yn enwedig y rhai y tu allan i'r categori Coch a chleifion y mae angen eu cludo'n uniongyrchol i'r ysbyty.

Ystyrir bod cerbydau ymateb cyflym yn llai cynhyrchiol nag ambiwlansys brys ar y sail:

§    eu bod yn cario llai o offer,

§    bod y pwll o ddigwyddiadau y maent yn eu mynychu yn llai nag ambiwlansys brys,

§    bod angen cymorth wrth gefn arnynt yn gan ambiwlansys brys i gludo cleifion i'r ysbyty,

§    nad ydynt, o fewn y model clinigol sydd ar waith yng Nghymru, yn darparu enillion amser ymateb sylweddol dros ambiwlansys brys, ac yn hollbwysig

§    y gall EAs gludo cleifion i'r gofal diffiniol y mae arnynt ei angen.

Efallai y bydd gorsafoedd penodol yn gweld gostyngiad yn eu hadnoddau arfaethedig ar ôl  i’r rhestrau dyletswyddau newydd gael eu rhoi ar waith, ond mae hyn wedi'i osod yng nghyd- destun sefyllfa well ar draws lleoliad, bwrdd iechyd a rhanbarth cyfan. Y bwriad hefyd yw y bydd yr Ymddiriedolaeth, drwy ailosod gwasanaeth ambiwlans brys, yn gallu lleihau'r ymatebion i alwadau "y tu allan i'r ardal" a gwella argaeledd cyffredinol.

Mae'r rhestrau dyletswyddau newydd ar gyfer pob gorsaf yng Nghymru yn cael eu datblygu mewn partneriaeth rhwng timau rheoli WAST a staff, wedi'u hwyluso gan gwmni rhestrau dyletswyddau allanol. Mae'r gwaith hwn yn mynd rhagddo ac mae'n cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â staff, cydweithwyr yn yr Undebau Llafur a chomisiynwyr. Mae’r Gweinidog yn disgwyl i'r rhestrau dyletswyddau diwygiedig ddechrau cael eu gweithredu ym mis Medi 2022.

Yn ddiweddar anfonodd Prif Weithredwr WAST lythyr at randdeiliaid, a oedd yn cynnwys sesiwn friffio ar yr adolygiad a'r hyn sy'n debygol o ddigwydd ledled Cymru wrth i ganlyniad yr adolygiad o restrau dyletswyddau gael ei roi ar waith. At hynny, mae’r Prif Weithredwr wedi cynnig y cyfle i gynrychiolwyr etholedig lleol gwrdd â'r Ymddiriedolaeth fel y gallant fod yn gwbl gyfarwydd â'r ffeithiau ac unrhyw oblygiadau lleol i'w hetholaethau.

Mae’r Gweinidog yn tynnu sylw at y ffaith, fel rhan o'i hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau diogel ac effeithiol, bydd yr Ymddiriedolaeth yn asesu effeithiolrwydd rhestrau dyletswyddau at y dyfodol yn rheolaidd, ac yn eu diweddaru a'u haddasu mewn ymateb i batrymau galw newidiol, newidiadau i  fodelau clinigol a gweithredu, moderneiddio'r ystâd ambiwlansys, anghenion cleifion a lles staff.

 

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.